Croeso i Barc Geneteg Cymru

“Harneisio Geneteg a Genomeg i hyrwyddo Ymchwil, Gofal Iechyd, Addysg ac Arloesi”

Mae Parc Geneteg Cymru yn grŵp cymorth seilwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Parc, sy’n cael ei gynnal gan yr Is-adran Canser a Geneteg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil ym maes geneteg a genomeg ledled Cymru, a thrwy hynny’n helpu i roi Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru ar waith.

Cenhadaeth Parc Geneteg Cymru yw cefnogi a hyrwyddo ymchwil enetig a genomig feddygol a’i chymhwyso at ofal iechyd mewn meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella iechyd a chyfoeth yng Nghymru, ac ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n codi.

Y Newyddion Diweddaraf