Y Newyddion Diweddaraf

Gwyddoniaeth Mewn Iechyd: Cyfres O Darlithoedd Cyhoeddus gyda Parc Geneteg Cymru | Dydd Iau 17 Hydref 2024, 7pm | Zoom

Mae tîm Gwyddoniaeth mewn Iechyd yr Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd yn ôl gyda’i Gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus. Ddydd Iau 17 Hydref 2024, 7pm bydd y gweminar ar-lein trwy Zoom yn cael ei gynnal. Teitl y ddarlith gyhoeddus yw: Beth allwn ni ei ddysgu o glefydau prin? Gan Dr Elaine Dunlop, Prifysgol Caerdydd (Ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru)

Mae rhai cyflyrau meddygol yn cael eu hystyried yn rhai ‘prin’ ac yn gallu cael eu diystyru i raddau helaeth gan y proffesiynau meddygol a gwyddonol. Er hynny, bydd clefyd prin yn effeithio ar 1 ym mhob 17 o bobl ar ryw adeg yn eu bywydau. Nid oes dealltwriaeth lawn gennyn ni o’rnamau cellol sy’n arwain at nifer o’r clefydau prin hyn. Bydd y drafodaeth hon yn canolbwyntio ar pam mae’n bwysig astudio clefydau prin a’r effaith y gallai canfyddiadau gwaith ymchwil i glefydau
prin ei chael ar y boblogaeth ehangach.

Cofrestrwch ar gyfer eich lle am ddim yma: Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – Yr Ysgol Meddygaeth – Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)