Y Newyddion Diweddaraf

Drama sain ‘Deuce’ gyda Theatr Illumine

Deuce – Gan Illumine Theatre, Partneriaeth Genomeg Cymru, a Pharc Geneteg Cymru

Mae’r seren tenis iau, Alys Harris yn llewygu wrth serfio ar gyfer y bencampwriaeth yn Wimbledon. A hithau mewn coma yn yr ysbyty, caiff ymweliad gan ei diweddar dad. All Daf, cyn-chwaraewr tenis, helpu Alys i wneud synnwyr o’i llewyg a pherswadio ei ferch i ddychwelyd i fywyd heb denis? Drama bwerus a theimladwy, sy’n rhoi cipolwg ar gardiomyopathi hypertroffig (HCM) a sut mae’n effeithio ar gydberthnasau, breuddwydion a mwy.

Cast yn cynnwys: Ella Peel – Alys, Daniel Lloyd – Daf
Awdur: Lisa Parry
Cyfieithydd: Branwen Davies
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman

Gwrandewch ar Spotify

Mwy o wybodaeth am Deuce ar gwefan Illumine Theatre