Rhwydwaith Geneteg Cyhoeddus

Gellir ymuno â’r Rhwydwaith Geneteg Cyhoeddus am ddim ac mae ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn geneteg a genomeg. Mae’r aelodau’n derbyn e-gylchlythyr chwemisol sy’n tynnu sylw at ddigwyddiadau Parc Geneteg Cymru, newyddion sy’n gysylltiedig â geneteg a genomeg, a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau perthnasol eraill fel rhoi barn ar ymgyngoriadau polisi neu gymryd rhan mewn ymchwil. Ers ei lansio yn 2016 mae’n parhau i dyfu, gan ddenu dros 450 o aelodau hyd yma. Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, e-bostiwch: WalesGenePark@Cardiff.ac.uk