Y Newyddion Diweddaraf

Cynaliadwyedd y GIG yn rhan amlwg o Gynhadledd Gwyddor Iechyd Cymru.

Cynaliadwyedd y GIG oedd prif bwnc Cynhadledd Gwyddor Iechyd Cymru 2025 yn ddiweddar. Ar 15 a 16 Mai, trefnodd Gwyddor Gofal Iechyd Cymru a Phwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru y gynhadledd yn Venue Cymru yn Llandudno.

Daeth y digwyddiad deuddydd ag arweinwyr gofal iechyd, sefydliadau addysgol, llunwyr polisïau a llunwyr penderfyniadau o bob cwr o Gymru ynghyd i gael trafodaethau arloesol a chynnig cyfleoedd i drin a thrafod ymchwil arloesol a fydd yn helpu i feithrin GIG cynaliadwy yng Nghymru.

Ymhlith pynciau’r gynhadledd roedd gweithlu’r GIG heddiw ac yn y dyfodol, mynd i’r afael â chyfraddau goroesi canser yng Nghymru, niwroamrywiaeth yn y gweithlu a thrawsnewid gwasanaethau yn genedlaethol.

Ymhlith y siaradwyr roedd:

· Jason Lintern, Arweinydd Arloesi Iechyd, Llywodraeth Cymru,

· Dr Rhodri Griffiths Cyfarwyddwr Arloesi, Mabwysiadu, Cynlluniwr Gweithlu Strategol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru,

· Dr Sarah Bant, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid Gweithlu Gwyddor Gofal Iechyd yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru,

· Yr Athro Chris Hopkins, Darpar Lywydd newydd yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd, a gadeiriodd ddiwrnod cyntaf y gynhadledd.

Ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y digwyddiad roedd tîm rhaglen Genomeg Iechyd Cyhoeddus (PHG) Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Partneriaeth Genomeg Cymru (GPW), Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) a Pharc Geneteg Cymru a fu’n cydweithio yn rhan o Strategaeth Genomeg Cymru.

Yn ystod y ddau ddiwrnod, siaradodd tîm Genomeg Iechyd Cyhoeddus ag ymchwilwyr, myfyrwyr ac unigolion eraill a gymerodd ran i drafod eu gwaith yn fwy a chreu chwilfrydedd ym maes genomeg a Rhaglen Genomeg Iechyd Cyhoeddus.