
Mae Partneriaeth Genomeg Cymru ymrwymedig i weithio gyda chleifion ac aelodau o’r cyhoedd i egluro pethau mewn ffordd glir a syml, gan rymuso dinasyddion Cymru i ddeall mwy am yr hyn y gall genomeg ei olygu iddyn nhw.
Mae Partneriaeth Genomeg Cymru recriwtio unigolion newydd sydd ag ystod o brofiadau (naill ai’n bersonol neu’n anuniongyrchol fel gofalwr neu aelod o’r teulu) gan gynnwys:
- Canserau etifeddol fel canser etifeddol y fron, y prostad, y coluddyn neu ganser yr ofari
- Clefydau prin fel Ffeibrosis Systig, Clefyd Huntington, Sglerosis Clorog
- Anhwylderau Oedi Datblygiadol fel Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, X Fregus, Syndrom Down
- Cael cynnig profion geneteg er mwyn rhagfynegi clefydau, neu yn ystod beichiogrwydd
- Cymryd rhan mewn prawf meddygaeth fanwl neu ‘bersonol’, e.e. ar gyfer canser
- Unrhyw ryngweithio â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
Ymgynghorwyd â’r Bwrdd Seinio presennol ar nifer o bynciau hyd yma gan gynnwys:
- Dewisiadau ar gyfer cymryd caniatâd cleifion i ddefnyddio eu data genomeg / samplau ar gyfer ymchwil
- Dylunio gwefan dda sydd â’r cynllun, y cynnwys a’r ymarferoldeb mwyaf addas
- Ffyrdd o wella ardaloedd clinig a mannau aros yn y gwasanaeth genomeg
- Cynllunio a deall ystyriaethau o safbwynt cleifion a’r cyhoedd ar gyfer lleoliad newydd arfaethedig y gwasanaethau genomeg
- Cynnwys taflenni gwybodaeth a deunydd ategol arall ar gyfer apwyntiadau
- Ystyriaethau penodol i gleifion wrth gyflwyno rhai gwasanaethau genomeg newydd
- Sut y gall rhaglenni cysylltiedig eraill sicrhau y gall cleifion a’r cyhoedd gael eu cynnwys yn eu gwaith
- Cynnwys ac ymagwedd ar gyfer cynhadledd fawr oedd yn hyrwyddo pob agwedd ar genomeg
Bydd y grŵp hwn yn parhau i weithio gydag aelodau eraill o Bartneriaeth Genomeg Cymru er mwyn:
- Ein helpu i lunio deunyddiau cyfathrebu i gleifion/y cyhoedd
- Ein helpu i wella ymwybyddiaeth cleifion/y cyhoedd o brofion geneteg a genomeg
- Ein helpu i wella ein prosesau caniatâd ar sail gwybodaeth a thaflenni gwybodaeth i gleifion
- Ein helpu i lunio ein dull o rannu samplau a data er budd ymchwil a gofal clinigol
- Ein helpu i lunio ein dull o ddarparu gwasanaethau genomeg i’n cleifion
- Ein helpu i sicrhau bod cleifion a’u teuluoedd yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith
Bydd ceisiadau i fod yn rhan o’r Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd yn agor 31 o Fai
Os hoffech i rywun gysylltu’n uniongyrchol â chi pan fydd y ceisiadau hyn yn agor, cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio’r ffurflen fer yn y ddolen isod.