Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am faes hynod ddiddorol – DNA, geneteg a genomeg – a chael gwybod sut mae’n effeithio ar ein bywydau pob dydd? Ymunwch â ni ar gyfer 9ed cynhadledd flynyddol 3G Parc Geneteg Cymru! Byddwch yn clywed cyflwyniadau gan arbenigwyr am bynciau sy’n cynnwys:
Bwydo’ch gwesteion perfedd microbiota perfedd dde a diet Dr Maninder Ahluwalia, Uwch Ddarlithydd mewn Geneteg Glinigol/Dynol a Chyfarwyddwr Rhaglen, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Pethau syndod efallai nad ydych yn gwybod am y brych Yr Athro Ros John, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
Effeithiau dynol ar ddyfrgwn Ewrasiaidd a’u hecosystemau dŵr croyw Dr Frank Hailer, Uwch Ddarlithydd, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
Genomeg Canser: QuicDNA / DNA tiwmor sy’n cylchredeg ‘ctDNA’ Rachel Dodds, Prif Wyddonydd Clinigol, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS)
…a MWY o siaradwyr i’w cyhoeddi!
Mae’r gynhadledd yn dechrau am 10:30. Ymunwch â ni drwy’r dydd neu galwch heibio am rai o’r cyflwyniadau (bydd y cyflwyniadau’n para 25 munud gyda chyfle i holi’r arbenigwyr sy’n siarad). Digwyddiad ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd dros 50 oed yw hwn, ond mae croeso i bawb.
Mynediad RHAD AC AM DDIM. Cofrestru trwy: https://www.ticketsource.co.uk/wales-gene-park/t-rpoaykx/