Yr wythnos hon, fe wnaethom gynnal digwyddiad yng Nghanolfan Iechyd Genomeg Cymru/Canolfan Iechyd Genomig Cymru, i ddathlu 20 mlynedd o Addysg ac Ymgysylltu gan Barc Geneteg Cymru. Mynychodd llawer y digwyddiad, gan gynnwys cyn gydweithwyr, cydweithwyr a chleifion y mae’r tîm wedi gweithio gyda nhw dros y ddau ddegawd diwethaf.
Ar ôl rhywfaint o rwydweithio a lluniaeth ysgafn, dechreuodd sawl sgwrs fer i amlygu cyflawniadau ein darpariaeth Addysg ac Ymgysylltu, ein gwaith cynnwys cleifion a’r cyhoedd, a’n gwaith cydweithredol dros y blynyddoedd gyda Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Roedd ein siaradwyr yn cynnwys Angela Burgess (Parc Geneteg Cymru), Emma Hughes (Parc Geneteg Cymru, Cynghrair Genetig y DU), Dr Rhian Morgan (Parc Geneteg Cymru), Dr Andrew Fry (Parc Geneteg Cymru), yr Athro Peter Kille (Prifysgol Caerdydd) a Dr Alexandra Murray (AWMGS). Cawsom hefyd neges fideo gan ein cydweithiwr Dr Anita Shaw (STEM Powered Learning) sydd wedi ein helpu i gyflawni drwy gadeirio rhai o’n digwyddiadau yn y gorffennol.
Yn ogystal â’r dathliad, roeddem hefyd yn nodi ymddeoliad ein cydweithiwr hirsefydlog, Angela Burgess, a oedd yn gyd-gyfarwyddwr Parc Geneteg Cymru ac a sefydlodd ein pecyn cyflwyno Addysg ac Ymgysylltu o ddigwyddiadau. Diolchodd cydweithwyr i Angela am ei holl waith caled a’i chyfraniad ystyrlon i’r rhaglen Addysg ac Ymgysylltu. Bydd colled fawr ar ei hôl fel aelod o’n tîm.
Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd, a phawb a fu’n ymwneud â’n gwaith dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r tîm Addysg ac Ymgysylltu yn gyffrous am ein holl gyfleoedd a digwyddiadau yn y dyfodol, ac i barhau ag etifeddiaeth Angela gan ddarparu ymgysylltiad o safon.