Derbyniad Diwrnod Clefydau Prin Cymru 2024
Derbyniad Blynyddol Cymru – 20 Chwefror, 6-8pm
Mae derbyniad blynyddol Genetic Alliance UK yn dychwelyd i Fae Caerdydd eto ac edrychwn ymlaen at weld llawer ohonoch yn bersonol i ddathlu Diwrnod Clefydau Prin a chodi ymwybyddiaeth gyda’r gymuned clefyd prin ehangach. Ers i’r digwyddiad fod mor llwyddiannus y llynedd, rydym yn dychwelyd i’r Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd. Bydd gennym nifer o stondinau arddangos a lluniaeth ysgafn yn ogystal â llawer o siaradwyr gwych felly dewch draw!
Ysgrifennwch at eich Aelod o’r Senedd hefyd a’u hannog i ymuno â ni yn y digwyddiad i ddysgu mwy am effaith afiechydon prin a sut y gallant eich cefnogi orau. Rhannwch y gwahoddiad gydag eraill a allai fod â diddordeb a chofrestru yma: Rare Disease Day 2024 Wales Reception Tickets, Tue 20 Feb 2024 at 18:00 | Eventbrite
Pryd: Dydd Mawrth 20 Chwefror, 6-8pm
Lle: Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Cofrestrwch yma: Rare Disease Day 2024 Wales Reception Tickets, Tue 20 Feb 2024 at 18:00 | Eventbrite
Derbyniad Rhithwir – 4 Mawrth, 2-4pm
Mae yna ddigwyddiad rhithwir hefyd i’r rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol, gan ddod â diweddariadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar-lein a gynhelir ar 4 Mawrth, 2-4pm: Rare Disease Day 2024 Joint Nation Online Event Tickets, Mon 4 Mar 2024 at 14:00 | Eventbrite
Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Diwrnod Clefydau Prin yn Genetic Alliance UK drwy eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r wybodaeth isod: X: Genetic Alliance UK (@GeneticAll_UK) / X (twitter.com)
Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd gysylltu â Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu Genetic Alliance UK (Cymru), Emma Hughes –emma@geneticalliance.org.uk.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn un o’r digwyddiadau!