Ymunwch â ni trwy Zoom ar gyfer digwyddiad cyhoeddus am DNA, geneteg a genomeg
Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am faes hynod ddiddorol – DNA, geneteg a genomeg – a chael
gwybod sut mae’n effeithio ar ein bywydau pob dydd? Ymunwch â ni ar gyfer 8ed cynhadledd
flynyddol 3G Parc Geneteg Cymru! Byddwch yn clywed cyflwyniadau gan arbenigwyr am bynciau sy’n
cynnwys:
V for Vaccination: from Cowpox to Covid Dr David Llewellyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Maethenomeg Coffi Dr Maninder Ahluwalia, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Gadewch i ni Siarad am Ganser y Coluddyn Shelley Nott, Bowel Cancer UK
Defnyddio’r celfyddydau i godi ymwybyddiaeth o glefydau prin Ceri Hughes, Same But Different
Defnyddio Geneteg mewn Bioamrywiaeth a Chadwraeth Dr Isa-Rita Russo, Prifysgol Caerdydd
Ymunwch â ni drwy’r dydd neu galwch heibio am rai o’r cyflwyniadau (bydd y cyflwyniadau’n para
25 munud gyda chyfle i holi’r arbenigwyr sy’n siarad) – bydd egwyl fer rhwng pob sgwrs. Digwyddiad ar gyfer
aelodau’r cyhoedd sydd dros 50 oed yw hwn, ond mae croeso i bawb. Mynediad RHAD AC AM DDIM.
Rhaid cofrestru drwy ddefnyddio: https://rb.gy/aylyk