Mae Parc Geneteg Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod yr actor ‘Tremolo’ Gareth Elis (yn y llun isod) wedi ennill Gwobr Marc Beeby am y Perfformiad Debut Gorau yng Ngwobrau Drama Sain y BBC 2023 yn ddiweddar!
Mae ‘Tremolo’ gan Lisa Parry, prosiect cydweithredol rhwng Parc Geneteg Cymru, Theatr Illumine a Theatr Genedlaethol Cymru, a chyda chymorth y Gymdeithas Geneteg, yn ddrama podlediad greadigol ddwyieithog sy’n ysgogi’r meddwl wrth iddi ystyried effeithiau diagnosis o Glefyd Alzheimer Etifeddol Cynnar a rhai o’r materion cymdeithasol-foesegol sy’n ymwneud â phrofion genetig.
Gareth dderbyniodd y wobr am ei bortread o Harri, 18 oed, sydd newydd orffen ei arholiadau ac sy’n barod i ddilyn ei freuddwydion pan mae’n darganfod bod ei fam wedi cael diagnosis o Glefyd Alzheimer Etifeddol Cynnar, ac mae gan Harri a’i chwaer 50 y cant siawns o etifeddu’r cyflwr.
Cyhoeddwyd enillwyr y gwobrau – a gyflwynir gan y BBC ynghyd â Chymdeithas yr Awduron ac Urdd Ysgrifenwyr Prydain Fawr – mewn seremoni yn Theatr y Radio, Tŷ Darlledu’r BBC ar 19 Mawrth, 2023. Mae’r gwobrau hyn yn ymroddedig i greadigrwydd actorion, awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, cerddorion, dylunwyr sain a phawb sy’n gweithio ym myd drama sain.
Llongyfarchiadau mawr i Gareth ac i’r holl enillwyr eleni!
Dewch i glywed perfformiad arobryn Gareth yn Tremolo Spotify, Apple Podcasts ac AM.
Rhagor o wybodaeth am Tremolo:
Pe baech yn gwybod y gallech gael cyflwr meddygol difrifol ac y gallech gael gwybod, a fyddech chi? Sut y gallai hyn effeithio ar eich ffrindiau a’ch teulu?
Archwilir y cwestiynau hyn drwy stori Harri, 18 oed. Mae ei fyd yn cael ei droi’n ben ei waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o glefyd Alzheimer teuluol cynnar ac mae gan Harri a’i chwaer siawns o 50% o’i etifeddu. A ddylai gymryd prawf i ddarganfod os yw’r cyflwr arno?
Wedi ei anelu’n bennaf at gynulleidfaoedd ifanc 16+ oed, ond ar gael i bawb. Caiff y podlediad ei ryddhau 3 Mawrth, a bydd ar gael i wrando arno a’i lawrlwytho drwy blatfformau yn cynnwys Spotify, Apple Podcasts, AM yn ogystal ag ar wefan Theatr Gen.
Gallwch gysylltu â Tremolo ar Spotify isod:
Bydd y gyfres bodlediadau hefyd yn cynnwys penodau gan dîm creadigol y ddrama, yn trafod themâu’r ddrama, yn ogystal â chyfraniadau gan arbenigwyr geneteg.
Mae Tremolo yn gynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.
Yn serennu Gareth Elis. Ysgrifennwyd gan Lisa Parry, cyfieithiad Cymraeg gan Branwen Davies, dan gyfarwyddyd Zoë Waterman, cerddoriaeth delyn a gyfansoddwyd ac a chwaraewyd gan Eira Lynn Jones, dylunio sain a golygu gan Rhys Young, cerddoriaeth ychwanegol gan Yws Gwynedd. Recordiwyd Tremolo yn Hoot Studios, Caerdydd.
Pecyn Addysg
I gyd-fynd â’r ddrama mae pecyn addysg ar gyfer ysgolion a cholegau wedi’i anelu at ddisgyblion blwyddyn 12/13. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:
Cynnwys Creadigol gan gynnwys
- Crynodeb o’r ddrama
- Cyfweliadau Fideo gyda’r Thim Creadigol
- Gweithgareddau Creadigol
Cynnwys Gwyddonol gan gynnwys
- Pecyn gwybodaeth
- Cymorth gyda Gyrfaoedd
- Gweithgareddau Gwyddonol
- Pwyntiau i fyfyrio arnynt
- Cymorth a chefnogaeth
Gall athrawon/addysgwyr gael copi o’r pecyn drwy ebostio walesgenepark@caerdydd.ac.uk