Cefndir
Mae tîm y Rhwydwaith Gweithredu Clefydau Prin yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddatblygu Canolfan Gofal Prin Ddigidol Cymru gyfan i gefnogi pobl sy’n byw gyda neu’n gofalu am rywun â chyflwr prin. Bydd y Ganolfan yn darparu cymorth gydag anghenion meddygol a gofal cymdeithasol, yn helpu gweithwyr proffesiynol i gael mynediad i hyfforddiant, ac yn cysylltu pobl ag elusennau i gael cyngor a gwybodaeth. Ein nod yw creu cymuned ar-lein i leihau unigedd a chreu gobaith am ddyfodol gwell i bawb sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau prin.
Allwch chi helpu?
Rydyn ni eisiau lledaenu’r gair am y Ganolfan Gofal Prin Ddigidol fel bod unrhyw un sy’n gallu elwa yn gallu cymryd rhan. Mae rhan o hyn yn golygu creu logo ar gyfer y Ganolfan, a dyma lle y galwch chi roi cymorth i ni! Rydym angen eich syniadau, eich lluniadau neu’ch dyluniadau ar gyfer logo er mwyn ennyn brwdfrydedd pobl i ddarganfod mwy am y Ganolfan. Er mwyn helpu i ddatblygu dyluniad eich logo, meddyliwch am wedd y ganolfan digidol a sut byddai cael y gofod ar-lein hwn yn gwneud i chi deimlo.
Beth i’w wneud
Gallwn dderbyn cofnodion o luniadau ffisegol a dyluniadau digidol. Rydym yn gyffrous i allu cynnig dau gategori: plant (13 oed ac iau) ac oedolion (14 oed a hŷn). Bydd yr enillwyr o bob categori yn cael cymorth gan ddylunydd graffeg proffesiynol i ddatblygu eu syniadau’n logo. Yna byddan nhw’n mynd benben â’i gilydd mewn cystadleuaeth derfynol.
Postiwch neu e-bostiwch eich dyluniadau atom
Parc Genetic Cymru Canolfan Iechyd Genomig Cymru (CIGC) Parc Busnes Cardiff Edge Longwood Drive Caerdydd CF14 7YU
walesgenepark@cardiff.ac.uk
Mae’r gystadleuaeth hon yn cael ei rhedeg gan dîm y Ganolfan Gofal Prin a’i chydlynu gan Barc Geneteg Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 10 Ionawr 2025, a chewch eich hysbysu am y ceisiadau buddugol ar 17 Ionawr er mwyn creu eich fersiwn terfynol erbyn 24 Ionawr.
Logo: