Dewch draw i’r digwyddiad addysg gymunedol wyneb yn wyneb ac ar-lein hwn ar gyfer teuluoedd y rhai sy’n dioddef o Thalasaemia a chlefyd y crymangelloedd, eu heiriolwyr, gofalwyr a’u cefnogwyr. Gallwch chi ddisgwyl cyflwyniadau gan arbenigwyr, arddangosfeydd a chyfleoedd i rwydweithio ac i ddysgu rhagor!
Bydd te, coffi a lluniaeth ysgafn ar gael.
Pryd? Dydd Sadwrn 16 Tachwedd, 10am – 3pm
Ble? Canolfan Gymunedol Butetown, Sgwâr Loudoun, Caerdydd CF10 5JA.
Cofrestrwch yn rhad ac am ddim yma: https://www.ticketsource.co.uk/wales-gene-park/e-gxqbze/