Digwyddiadau i Gleifion a Theuluoedd
Mae Parc Geneteg Cymru yn gweithio’n agos gyda’r gymuned Clefydau Prin yng Nghymru ac yn rhoi cyngor a chymorth i’w galluogi i drefnu a chynnal digwyddiadau lleol fel diwrnodau gwybodaeth, digwyddiadau teuluol a chyfarfodydd ymchwil ar gyfer ei chymunedau penodol. Os hoffech gael cymorth i drefnu digwyddiad ar gyfer eich cymuned, cysylltwch â Emma.
Ymhlith y digwyddiadau a drefnir gan Barc Geneteg Cymru a Genetic Alliance UK mae’r canlynol:
Cyfarfod Blynyddol y Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin
- Cyfarfod blynyddol y rhwydwaith a gynhelir yn yr hydref. Mae’r cyfarfod yn cynnwys siaradwyr gwadd, arddangosfeydd gan sefydliadau cleifion a chyfle i rwydweithio â chleifion, gofalwyr, sefydliadau cleifion a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r rhai y mae clefydau prin yn effeithio arnynt.
Cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol
- Cyfarfodydd rheolaidd o’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cyflyrau Prin, Genetig a Heb Ddiagnosis a gadeirir gan Angela Burns AS. Mae’n cynnig llwyfan i hysbysu Aelodau’r Senedd am brofiadau aelodau o’r gymuned yng Nghymru a’r materion sy’n effeithio arnynt.
![](https://walesgenepark.cardiff.ac.uk/wp-content/uploads/2023/11/02.010.19-mh-Cross-Party-Rare-Disease-UK-60-768x512-1.jpg)
Derbyniad Seneddol Diwrnod Clefydau Prin
- Digwyddiad blynyddol, a gynhelir fel arfer ym mis Chwefror, i ddathlu Diwrnod Clefydau Prin a chodi ymwybyddiaeth o glefydau prin ymhlith seneddwyr yn y Senedd.
![](https://walesgenepark.cardiff.ac.uk/wp-content/uploads/2023/11/14.02.19-mh-Rare-DiseaseUK-Senedd-112-300x200-1.jpg)
Caffis Genomeg
- Mae caffis, a gynhelir ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru, yn gyfle hamddenol ac anffurfiol i gwrdd ag eraill a dysgu am ddatblygiadau newydd mewn meddygaeth genomig yng Nghymru. Maent hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai y mae cyflyrau prin a genetig yn effeithio arnynt ac aelodau’r cyhoedd ddod ynghyd, rhwydweithio, a chael gwybodaeth (megis cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil, digwyddiadau ac adnoddau) a chefnogaeth.
![](https://walesgenepark.cardiff.ac.uk/wp-content/uploads/2023/11/IMG_20190628_133824-1-300x225-1.jpg)
Os ydych yn aelod o’r Rhwydwaith i Gleifion â Chlefydau Prin, byddwch yn cael diweddariadau am yr holl ddigwyddiadau sydd ar ddod. Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, e-bostiwch: WalesGenePark@Cardiff.ac.uk.