Ymuno â ymchwil afiechyd prin
Pa fath o waith ymchwil gallwn i fod yn rhan ohono?
Mae llawer o wahanol fathau o ymchwil lle gall cleifion gynorthwyo, o brosiectau sy’n ceisio chwilio am achosion cyffredin cyflwr mae cleifion yn ei rannu, hyd at ymchwil lefel uwch lle mae triniaeth newydd y cafwyd hyd iddi mewn prosiectau ymchwil cynharach yn cael ei phrofi i gadarnhau’r budd i gleifion.
Dyma rai o’r mathau o bethau y gellid gofyn i chi eu gwneud fel claf sy’n ymuno mewn gwaith ymchwil:
- Ateb holiaduron
- Cymryd rhan mewn cyfweliadau
- Rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar eich cofnodion meddygol
- Rhoi sampl gwaed neu wrin
- Derbyn triniaeth newydd
Dylech gofio bob amser mai chi sy’n dewis a ydych am gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil, ac os byddwch chi’n penderfynu cymryd rhan, gallwch chi newid eich meddwl unrhyw bryd.
Ym mha ffyrdd eraill mae cleifion yn helpu ymchwilwyr?
Ym mha ffyrdd eraill mae cleifion yn helpu ymchwilwyr?
Yn ogystal â chyfranogi mewn ymchwil, mae cleifion ac aelodau o’r cyhoedd hefyd yn helpu ymchwilwyr trwy gynnig eu barn, eu harbenigedd a’u safbwynt allanol ar astudiaeth cyn ei bod yn cynnwys unrhyw gleifion.
Gallech fod yn rhan o gwrdd ag ymchwilwyr a thrafod eu syniadau, rhoi eich barn ar wybodaeth a roddir i gleifion, neu chwarae rhan weithredol wrth yrru ymchwil i glefydau prin ymlaen.
Os hoffech chi wybod mwy am fod yn rhan o waith ymchwil fel cynrychiolydd cleifion, cysylltwch ag Emma Hughes o Genetic Alliance UK: emma@geneticallianceuk.org.
Sut mae prosiectau ymchwil yn cael eu rheoleiddio?
Mae’n rhaid i bob prosiect ymchwil sy’n cynnwys cleifion fodloni canllawiau llym iawn, ac ni allant ddigwydd heb gymeradwyaeth pwyllgor moeseg neu awdurdod ymchwil iechyd arall. Bydd rhaid hefyd i unrhyw astudiaeth sy’n golygu bod cleifion yn cael triniaeth gael ei chymeradwyo gan Asiantaeth Reoleiddio’r cynnyrch Gofal Iechyd a Meddyginiaethau.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan NHS Choices.
Pa fath o brosiectau galla i ddod o hyd iddyn nhw?
Nod porth Parc Geneteg Cymru yw cyfuno gwybodaeth am brosiectau ymchwil i glefydau prin, ac anogir cleifion yng Nghymru i ymuno yn y gwaith hwnnw a’i gefnogi.
Rydym ni’n diweddaru gwybodaeth yn barhaus i sicrhau bod astudiaethau cyfredol a pherthnasol yn cael eu cynnwys, ond weithiau gallwn ni golli rhywbeth neu efallai na fyddwn ni wedi cael cyfle i ychwanegu’r wybodaeth ddiweddaraf – byddwch yn amyneddgar, os gwelwch yn dda, mae pawb ohonon ni’n feidrol!
Os hoffech chi gysylltu â ni ynghylch unrhyw wybodaeth sydd ar y porth, anfonwch e-bost aton ni, os gwelwch yn dda: RDGateway@caerdydd.ac.uk
Rwy wedi methu dod o hyd i unrhyw beth yn eich cronfa ddata, ble arall galla i chwilio?
Nod cronfa ddata Parc Geneteg Cymru yw cyfuno gwybodaeth am ymchwil ynghylch clefydau prin ar gyfer cleifion yng Nghymru. Os nad ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i’r hyn roeddech chi’n chwilio amdano ar ein porth, dyma rai gwefannau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth ehangach am ymchwil feddygol a threialon cyffuriau a allai fod o ddefnydd i chi:
- UK Clinical Trials Gateway: yma rhestrir treialon clinigol
- Orphanet: mae’n darparu gwybodaeth am brosiectau ar glefydau prin
- Cyfeirlyfr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: cronfa ddata o brosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar waith ledled Cymru
- Be Part of Research: safle’r Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol, fydd yn eich helpu i gael gwybod am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig