Gwasanaethau NGS

Mae labordy Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru, sydd yng Nghanolfan Iechyd Genomig Cymru, yn defnyddio offer NGS ym Mhrifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Genomeg Cymru Gyfan y GIG (AWMGS). Mae gan staff y labordy gwlyb ddegawdau o brofiad ar ôl profi newid o ddilyniannu cenhedlaeth “gyntaf” i’r genhedlaeth “nesaf”, a’i weithredu gyda’i gymwysiadau ym maes geneteg ddynol a chanser.

Defnyddir dilyniant DNA a RNA trwybwn uchel (cenhedlaeth nesaf) yn gyson mewn ymchwil ym maes geneteg a biofeddygaeth fodern, ar gyfer ystod o gymwysiadau. Mae Parc Geneteg Cymru yn cynnig dull hyblyg, pwrpasol o helpu ymchwilwyr i gyrchu technoleg dilyniannu trwybwn uchel ar gyfer ymchwil fiofeddygol yng Nghymru.  Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr academaidd ac eraill ac yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol sy’n diwallu anghenion prosiectau ymchwil, o ddylunio prosiectau i ddadansoddiadau trydyddol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod modd cael gafael ar y technolegau hyn am gost resymol er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r dechnoleg hollbwysig hon.

Paratoi llyfrgell NGS

Gall ein staff roi cymorth parhaus ar bob cam o’r biblinell genomeg, gan gynnwys echdynnu DNA, paratoadau llyfrgell DNA/RNA, llyfrgell ansawdd data (QC), dilyniannu Illumina a data dilyniannodi DNA y genhedlaeth nesaf (NGS). Dyma rai o’r llifoedd gwaith y mae ein staff yn eu gweithredu fel mater o drefn wrth baratoi llyfrgell NGS:

Llwyfannau dilyniant Illumina

Illumina NovaSeq 6000, NextSeq 550 and MiSeq.

Gwasanaethau eraill ar gael ar Parc Geneteg Cymru:

  • Covaris – Ultrasonicator (DNA/RNA darnio mecanyddol).
  • Meintioli DNA/RNA yn fanwl gywir ar gyfer dilniannodi DNA y genhedlaeth nesaf (NGS).
  • Nodweddu llyfregell, DNA/RNA HS a phecyn safonol (TapeStation, Agilent).
  • BioAnalyser (Library characterisation)