Golygu Genomau
Mae’r Cyfleuster Golygu Genomau, sydd wedi’i leoli yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, ac a arweinir gan yr Athro Nick Allen, yn cyflawni gwaith deillio, golygu genomau a meithrin bôn-gelloedd amlbotensial cymelledig (iPSCs) a bôn-gelloedd embryonig llygod (ESCs). Mae’r dechnoleg hon yn adnodd hanfodol wrth ddeall a modelu clefydau genetig, ac wrth asesu a datblygu triniaethau a therapïau newydd. Bydd y cyfleuster yn cynnig cymorth i brosiectau golygu genomau CRISPR, gan gynnwys dylunio astudiaeth, cynhyrchu, sgrinio a dilysu llinellau celloedd wedi’u golygu.
Ein harbenigedd
Mae gan yr Athro Allen arbenigedd helaeth mewn cynllunio, datblygu a defnyddio modelau clefydau sy’n deillio o iPSC. Mae gan Bridget Allen, Rheolwr Ymchwil Cyfleuster Golygu Genomau Parc Geneteg Cymru, arbenigedd technegol ym maes meithrin iPSCs a thechnolegau golygu genomau CRISPR mewn iPSCs dynol.
Yn ogystal, fel rheolwr cyfleuster trawsenynnol Parc Geneteg Cymru, mae gan Bridget brofiad hirsefydlog o gynhyrchu, cynnal a rhewgadw llygod trawsenynnol a ‘knockout’, a’r holl dechnegau cysylltiedig. Er nad ydym bellach yn cynhyrchu llygod trawsenynnol a ‘knockout’ fel gwasanaeth, gallwn ddarparu ymgyngoriadau, cyngor a chymorth i ymchwilwyr ledled Cymru yn y technegau hyn, rheoli cytrefi a rhaglenni bridio.
Gweithgareddau Craidd
- Datblygu technoleg golygu genomau CRISPR i gynhyrchu llinellau iPSC newydd wedi’u haddasu’n enetig (GM)
- Ailraglennu iPSC
- Deilliad celloedd ES
- Darparu gwasanaeth ymgynghori i ymchwilwyr y mae angen cymorth arnynt gyda thechnegau ES/iPSC a golygu genomau
- Parhau i ddefnyddio modelau trawsenynnol presennol ar gyfer ymchwil i fecanweithiau clefydau a threialon cyn-glinigol
Enghreifftiau o waith a wnaed
- Datblygu model rhaglennu ffetysol cyn-glinigol sy’n cyfuno cyfyngiadau ar dwf y ffetws ac ymddygiad annormal (Prof. Ros John, BIOSI)
- Mae mwtadiad Axin1 yn ysgogi carsinoma hepatogellog, tra bod lleihau b-catenin cellwyriadol yn gwrthdroi hyperplasia perfeddol (Prof. Trevor Dale, BIOSI)