Digwyddiadau i’r cyhoedd

Arddangosfa Genomeg 2026
23/04/2026
Stadiwm Dinas Caerdyddardiff City Stadium, Cardiff
Genomeg – mae astudiaeth o DNA person cyfan (yr holl wybodaeth sy’n ei wneud yn unigryw) – yn trawsnewid meddygaeth a gofal iechyd.
P’un a ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol, yn ymchwilydd, yn glaf, neu’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn y pwnc cyffrous hwn, mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn gyfle i gysylltu ag eraill, rhannu profiadau, ac archwilio sut mae gwyddoniaeth genomig yn newid bywydau.
Ymunwch â ni a bod yn rhan o ddiwrnod deinamig o ddarganfod, dysgu ac ysbrydoliaeth, wrth i Gymru arddangos rhai o’r datblygiadau diweddaraf mewn genomeg.
Mae’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru yn cynnig lle croesawgar i rannu gwybodaeth, cydweithio ac arloesi. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau difyr, trafodaethau panel, a sesiynau rhyngweithiol i bawb eu mwynhau. Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed am ymchwil flaengar, sut mae gwyddoniaeth yn cael ei chymhwyso mewn sefyllfaoedd go iawn, a sut mae genomeg yn llunio dyfodol iechyd a meddygaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r digwyddiad a’r rhaglen wedi’u cynllunio ar y cyd â Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd Partneriaeth Genomig Cymru, gan sicrhau bod lleisiau cleifion yn ganolog i’r diwrnod. Fe’i cynlluniwyd i gynnig gwerth, dealltwriaeth ac ysbrydoliaeth i bawb.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:
- Sesiynau addysgiadol gan ymchwilwyr genomig blaenllaw a gweithwyr iechyd proffesiynol
- Cyflwyniadau gan gleifion i amlygu a deall profiadau bywyd
- Cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio
- Sesiynau rhyngweithiol ac ymarferol i’r cyhoedd archwilio gwyddoniaeth genomig yn uniongyrchol
Cofrestrwch i gadw lle nawr drwy’r ddolen TicketSource: Cofrestrwch yma!
Digwyddiadau ar gyfer ymchwilwyr
Yn dod yn fuan. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Digwyddiadau ar gyfer addysgwyr
Yn dod yn fuan. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol.