Digwyddiadau i’r Cyhoedd
Mae Parc Geneteg Cymru yn trefnu ac yn cyflwyno rhaglen brysur ac amrywiol o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru gyda’r nod o wella dealltwriaeth o eneteg a genomeg ymhlith pawb mewn cymdeithas a hyrwyddo ymgysylltu â’r meysydd hynny. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynhadledd Gyhoeddus Geneteg a Genomeg ar gyfer y 3ydd Genhedlaeth (‘3G’)
Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn cael ei gynnal yn y gogledd ac yn y de bob blwyddyn ac mae’n agored i aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn DNA, geneteg, genomeg a phynciau cysylltiedig. Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu’n benodol at y rhai dros 50 oed ond gall unrhyw un ddod. Mae cynadleddwyr yn mwynhau sgyrsiau ar bynciau arloesol a stondinau rhyngweithiol sy’n dangos prosiectau ymchwil a phrosiectau eraill o bob rhan o Gymru.
Yn ystod pandemig y coronafeirws, caiff y digwyddiad hwn ei gynnal ar-lein.
- Sgyrsiau â Grwpiau Cymunedol
Mae Parc Geneteg Cymru yn cyflwyno sgyrsiau am ddim i grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n cynnwys Clybiau Rotari, grwpiau Sefydliad y Merched (SyM), Cymdeithasau Ymddeol y GIG, Probus, Soroptimyddion, Prifysgol y Drydedd Oes (U3A) a grwpiau llyfrgelloedd cymunedol.
Mae’r sgyrsiau’n ymdrin ag ystod o bynciau sy’n gysylltiedig â DNA a geneteg/genomeg – mae enghreifftiau’n cynnwys geneteg a genomeg mewn bywyd pob dydd, cadwraeth a bioamrywiaeth, olion bysedd DNA a gwyddor fforensig, datblygiadau mewn genomeg, bôn-gelloedd, meddygaeth wedi’i phersonoli, a DNA y Brenin: Richard III, o’r maes parcio i’r eglwys gadeiriol. Fodd bynnag, mae geneteg/genomeg yn feysydd sy’n newid yn gyflym a datblygir yr ystod o sgyrsiau i roi gwybod am y datblygiadau newydd.
Yn ystod pandemig y coronafeirws, gellir cyflwyno sgyrsiau i grwpiau ar-lein.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu ofyn am ddigwyddiad i’ch grŵp, cysylltwch â ni.
- Sgyrsiau a Darlithoedd Cyhoeddus
Nod sgyrsiau a darlithoedd cyhoeddus Parc Geneteg Cymru, a drefnir drwy gydol y flwyddyn, yw ymgysylltu â chynulleidfa leyg am faterion amserol sy’n ymwneud â geneteg a genomeg. Maent yn denu cynulleidfa amrywiol o fyfyrwyr Chweched Dosbarth i aelodau o’r cyhoedd sydd wedi ymddeol. Mae pynciau blaenorol wedi cynnwys Profion Genetig Dros y Cownter, y Prosiect 100,000 o Genomau, Canserau Prin, Datrys yr Helics, Iechyd Meddwl a Geneteg, a Chanser y Prostad a Chi.
Yn ystod pandemig y coronafeirws, mae sgyrsiau yn cael eu cyflwyno ar-lein.
I awgrymu pwnc ar gyfer sgwrs gyhoeddus, cysylltwch â ni.
- Digwyddiadau eraill
Mae Parc Geneteg Cymru hefyd yn trefnu ac yn cyflwyno digwyddiadau unigryw eraill fel dangosiadau ffilm ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu ychwanegol fel gwyliau a digwyddiadau gwyddoniaeth cyhoeddus.