Digwyddiadau ar gyfer Ysgolion a Cholegau
Mae Parc Geneteg Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau addysgol ar gyfer Ysgolion a Cholegau ledled Cymru a siroedd y gororau, gyda’r nod o gefnogi geneteg a genomeg addysg uwchradd a chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynadleddau Chweched Dosbarth
Mae’r Gynhadledd Chweched Dosbarth yn ddigwyddiad sefydledig yn ne a gogledd Cymru. Fe’i cynhelir bob dwy flynedd ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr blwyddyn 12/13 glywed sgyrsiau gan siaradwyr arbenigol ar y datblygiadau diweddaraf mewn geneteg a genomeg mewn amgylchedd cynhadledd. Mae’r digwyddiadau hefyd yn cynnwys nifer o stondinau ac arddangosfeydd sy’n arddangos ymchwil a phrosiectau o bob rhan o Gymru yn ogystal â gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd.
- * Sioeau Teithiol Geneteg/Genomeg
Mae’r Sioe Deithiol i Ysgolion, a gynhelir bob dwy flynedd, yn cynnig sgyrsiau am ddim sy’n gysylltiedig â DNA a geneteg/genomeg i fyfyrwyr blwyddyn 12/13 yn eu hysgol neu eu coleg. Ym mhob sioe deithiol, bydd dau neu dri siaradwr arbenigol yn trafod testunau fel: Anhwylderau a etifeddir; Cwnsela genetig; Genomeg; Bôn-gelloedd; Meddygaeth bersonol; Bioamrywiaeth; Gwyddoniaeth fforensig; Peirianneg Enetig; Dilyniannu Cenhedlaeth Nesaf; Profion genetig; Geneteg canser. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a siarad â’r siaradwyr.
Yn ogystal â gwella’r cynnwys a gwmpesir gan eu maes llafur, nod y sioeau teithiol yw rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf ym maes geneteg a genomeg sy’n symud yn gyflym a chynnig gwybodaeth am gyrsiau a gyrfaoedd cysylltiedig. Gallant hefyd ddarparu deunydd ar gyfer cyfweliadau prifysgol.
- Digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer Athrawon
Cynhelir gweithdai a digwyddiadau DPP Geneteg a Genomeg ar gyfer athrawon bioleg mewn cydweithrediad â Techniquest. Fe’u hariennir gan STEM Learning, ac fe’u cynhelir gan Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Maent yn rhoi cyfle i addysgwyr uwchradd ddysgu mwy am y datblygiadau diweddaraf ym maes geneteg a genomeg sy’n symud yn gyflym a mynd â’r hyn a ddysgwyd yn ôl i’r ystafell ddosbarth.
Mae’r digwyddiadau’n cynnwys cyfres o sgyrsiau gan siaradwyr arbenigol ar bynciau sy’n berthnasol i gwricwlwm bioleg UG/Safon Uwch CBAC (mae enghreifftiau o bynciau’n cynnwys y Prosiect 100,000 o Genomau, epigeneteg, genomeg pathogenau, olion bysedd DNA), sesiynau ymarferol a theithiau o amgylch cyfleusterau gwyddoniaeth y brifysgol.
- Digwyddiadau gyrfaoedd eraill, dangosiadau, gwyliau gwyddoniaeth
Mae Parc Geneteg Cymru hefyd yn trefnu digwyddiadau unigryw ar gyfer ysgolion fel dangosiadau ffilm ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu ychwanegol fel digwyddiadau gyrfaoedd a gwyliau gwyddoniaeth.
Cysylltwch â ni os hoffech ddysgu mwy am y rhaglen ddigwyddiadau hon.