Digwyddiadau ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
Mae Parc Geneteg Cymru yn trefnu ac yn darparu datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, trwy ddigwyddiadau gan gynnwys cynadleddau, cyfarfodydd, cyrsiau, diwrnodau astudio a gweithdai, ar bob agwedd ar feddygaeth enetig a genomig.
Mae’r digwyddiadau hyn yn dwyn ynghyd arbenigwyr a chynrychiolwyr o Gymru, y DU a ledled y byd i addysgu a hysbysu, yn cynnig fforwm ar gyfer rhwydweithio, ac yn arddangos meysydd arbenigedd yng Nghymru ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae agweddau eraill ar raglen Parc Geneteg Cymru i Weithwyr Proffesiynol Iechyd yn cynnwys sesiynau addysgol ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth, meddygol a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, gan gynnwys y sgyrsiau poblogaidd Byw gyda Chyflyrau Genetig.
Nod y sesiynau hyn yw hysbysu ac addysgu am gyflyrau prin a genetig a, thrwy brofiadau personol, hyrwyddo dealltwriaeth o’r effaith y maent yn ei chael ar fywydau bob dydd ac ar ymarfer gofal iechyd. Mae’r sesiynau’n dechrau gydag arbenigwr geneteg, Cwnselydd Genetig neu arbenigwr arall fel arfer, yn sôn am agweddau fel geneteg sylfaenol, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a manylion am y cyflwr genetig y bydd y sesiwn yn canolbwyntio arno. Dilynir hyn gyda sgwrs gan rywun y mae cyflwr genetig yn effeithio arno – fel unigolyn â’r cyflwr, aelod o’r teulu, neu ofalwr. Mae eu hanesion personol yn rhoi darlun pwerus o’r effaith y gall y cyflwr ei chael ar unigolyn neu deulu.
Os bydd gennych ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad neu gymryd rhan mewn sesiwn Byw gyda Chyflyrau Genetig, cysylltwch â ni.