Deall Banc Data Genomig Cymru Gyfan (AWGDB)  

Diben menter ymchwil Banc Data Genomig Cymru Gyfan (AWGDB) yw gwella gwybodaeth o gyflyrau genetig a’r ffordd rydym yn eu deall. Drwy gasglu a rheoli data gan unigolion sy’n destun profion Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan y GIG (AWMGS), nod y banc data yw cefnogi ymchwil sy’n helpu cleifion.  Mae cymryd rhan yn AWGDB yn gwbl wirfoddol. Mae casglu data genomig a mynediad at gofnodion meddygol yn digwydd ar ôl i’r claf roi cydsyniad gwybodus a llofnodi’r dogfennau angenrheidiol. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan dynnu’n ôl unrhyw bryd heb roi rheswm.

Nid yw penderfyniad i dynnu’n ôl, neu benderfyniad i beidio â chymryd rhan yn y lle cyntaf, yn cael effaith ar driniaeth feddygol neu ofal y mae unigolyn yn ei gael ar hyn o bryd neu yn y dyfodol.  

Beth yw’r Banc Data?  

Mae AWGDB yn hwyluso’r broses o gael mynediad at ddata iechyd a genetig a grëwyd gan AWMGS i ymchwilwyr cymeradwy. Parc Geneteg Cymru sy’n ei reoli, sef sefydliad ym Mhrifysgol Caerdydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Prifysgol Caerdydd yw noddwr y banc data, gan sicrhau ei fod yn gyfrifol am ofalu am yr wybodaeth a’i defnyddio’n gywir.  

Prif nod y banc data yw cynyddu galluoedd ymchwil. Er y cesglir y data’n rhan o ofal clinigol arferol, mae’n werthfawr i ymchwilwyr sy’n ceisio deall pam mae clefydau’n digwydd a sut i’w trin.  

Sut mae data’n cael ei ddefnyddio a’i ddiogelu  

Mae’r AWGDB yn casglu dau brif fath o wybodaeth gan y sawl sy’n cymryd rhan:  

  • Data Genomig: Data dilyniant sy’n deillio o brofion DNA.  
  • Data Iechyd: Gwybodaeth berthnasol o gofnodion meddygol, megis hanes clinigol a chanlyniadau profion.  

Mae diogelwch yn flaenoriaeth i’r AWGDB. Caiff data ei gadw ar weinyddion diogel gan ddefnyddio mesurau safonol y diwydiant. At ddibenion diogelu preifatrwydd, caiff gwybodaeth adnabyddadwy (megis enwau) ei throi’n gôd unigryw cyn ei rannu ag ymchwilwyr. 

Cydweithredu Byd-eang ym maes Ymchwil  

Mae’r data a gedwir gan AWGDB ar gael i ymchwilwyr cymeradwy ledled y byd, gan gynnwys y rheini mewn ysbytai, prifysgolion a chwmnïau masnachol. Bwriad y mynediad eang hwn yw meithrin datblygiad meddalwedd, profion, cyffuriau neu ddatblygiadau eraill a allai fod o fudd i ofal iechyd yn y dyfodol.  

Mae mynediad at y data’n cael ei reoli’n ofalus. Caiff ceisiadau mynediad at ddata eu hadolygu gan banel o arbenigwyr a chynrychiolwyr cleifion, ac mae rhaid i ymchwilwyr lofnodi cytundebau i gadw’r wybodaeth yn ddiogel.  

Manylion cyswllt    

Os ydych chi, neu eich plentyn, yn glaf sydd wedi, neu sy’n destun profion AWMGS, sydd eisiau siarad â ni am gymryd rhan, neu os ydych chi’n ymchwilydd sydd eisiau siarad â ni am y data rydyn ni’n ei gadw, mae croeso ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:  

Ffôn

029 218 34013

Gofynnwch i siarad â Rhys Vaughan, Rheolwr Cydsyniad Genomig