Cefnogaeth Biowybodeg
Gan weithio’n agos gyda’r labordy dilyniannu, mae ein tîm bach o biowybodegwyr mewn sefyllfa i’ch helpu chi gyda’r her o fynd o ddata crai i wybodaeth wedi’i churadu i’ch galluogi i gael dirnadaethau o’ch arbrofion. Ein nod yw sicrhau bod ymchwilwyr meddygol ledled Cymru yn ymelwa’n briodol ar Ddata Mawr genomig.
Rydym yn cydweithio â chydweithwyr sy’n gweithio gyda Labordai Genomig Parc Geneteg Cymru i gynhyrchu data mawr genomig ar gyfer eu hymchwil. Lle y gallwn, rydym hefyd yn cydweithredu â chydweithwyr ledled Cymru sy’n gofyn i hybiau dilyniannu trydydd parti fodloni eu gofynion dilyniannu.
Ein Profiad
Mae gan y tîm brofiad helaeth o holl gymwysiadau cyffredin technolegau dilyniannu cenhedlaeth nesaf.
Yr hyn y gallwn ei wneud i chi
Fel rhan o’n gwaith, rydym yn cydweithio â chlinigwyr, geneteg feddygol a chydweithwyr ymchwil enomig. Rydym yn cynnig arbenigedd a gwybodaeth ymarferol ym maes trin data, yn addysgu cydweithwyr, ac yn rhoi arweiniad ar y ffordd orau o ddefnyddio’r dechnoleg gyffrous hon. I grynhoi, rydym yn cynghori, yn gweithredu ac yn addysgu.
Rhoi cyngor
Ar ddechrau prosiect ymchwil y bydd biowybodeg yn bwysicaf: mae dylunio arbrofol da yn hanfodol o’r dechrau. Rydym yn cynghori ac yn cynorthwyo cydweithwyr ac rydym yma i wrando hyd yn oed os mai dim ond gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer eich syniadau ydym! Mae angen i geisiadau am grant sy’n dibynnu ar ddata dilyniant trwybwn uchel ddeall a dangos eu bod yn deall biowybodeg. Gallwn helpu i ysgrifennu a chefnogi’ch ceisiadau er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi lwyddo yn eich gwaith dadansoddi biowybodegol.
Dadansoddi
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr i drin a dadansoddi eu data, gan gynnig arbenigedd ymarferol a mynediad i’n seilwaith cyfrifiadura perfformiad uchel pwrpasol. Gallai hyn gynnwys darn byr o waith na fyddai’n cymryd llawer iawn o amser neu gyfnod hir o ymchwil a fyddai’n gofyn i ni gael ein cynnwys yn y grŵp cydweithredol – gan ddod yn rhan o’r tîm i bob pwrpas. Os gallwn ychwanegu gwerth gwirioneddol i brosiect a bod y prosiect hwnnw’n rhan o’n cylch gwaith ymchwil, yna gwnawn ein gorau i gydweithio.
Addysgu
Rydym yn awyddus i addysgu technegau biowybodeg i gydweithwyr a fydd yn eu gwneud yn fwy hunangynhaliol wrth ddadansoddi data dilyniannu trwybwn uchel. Gall hyn fod trwy seminarau, tiwtorialau, gweithdai neu, yn well byth, hyfforddiant un i un. Ein nod yw sicrhau bod y grwpiau cywir yn cael y sgiliau cywir.
Croesawu datblygiadau newydd
Y tu hwnt i gymwysiadau sefydledig technoleg NGS, mae’r tîm bob amser yn awyddus i weithio ar bethau newydd a datblygu ei arbenigedd mewn ffyrdd newydd arloesol o ddadansoddi genomig er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i gefnogi datblygiadau ymchwil i ymchwilwyr yng Nghymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r tîm wedi gweithio ar nifer o feysydd newydd gan gynnwys:
- Dadansoddi RNA un gell o lwyfannau 10X a Fluidigm
- Aildrefnu strwythur a dadansoddi CNV
- Dadansoddi isofformau a dadansoddiadau sbleisio amgen
- Dadansoddi dilyniannau o dderbynyddion celloedd-T o ddata RNAseq
- Dadansoddiad dyblyg tandem mewnol
- Llofnodion mwtanol amrywiadau niwcleotid sengl (SNVs)
- Dadansoddiad methylu (MeDIPseq a WGBSseq)
- Integreiddio data ar draws llwyfannau a thechnolegau lluosog
- Dysgu peirianyddol wedi’i gymhwyso at amrywiaeth o dechnolegau omig
Cysylltwch â’n Tîm Biowybodeg i ddod o hyd i’r biblinell biowybodeg orau sy’n gweddu i’ch nodau ymchwil
- Dr. Benoit Lan-Leung – Uwc-fiowybodegydd
- Dr. Aimee Bettridge –Fiowybodegydd