Gorwel Newydd mewn Ymchwil: Y tu mewn i’r Banc Data Genomeg Cymru Gyfan 

Gan weithio gyda phartneriaid, yn ogsytal â Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW), mae Parc Geneteg Cymru wedi datblygu banc data ymchwil newydd: Banc Data Genomeg Cymru Gyfan (AWGDB). Ariennir yr adnodd blaenllaw hwn, sy’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), gan Lywodraeth Cymru drwy GPW ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi ymchwil o safon fyd-eang.

Mae’r fenter hon yn gam sylweddol ymlaen er mwyn cwrdd â’r amcanion a osodwyd yng Nghynllun Cyflawni Genomeg Cymru, yn ogystal a datblygu gwybodaeth, meithrin ffyrdd o arloesi, a hwyluso canfyddiadau i gleifion â chyflyrau prin.

Prif nod y banc data yw cynyddu gallu ymchwil. Drwy ddarparu mecanwaith ar gyfer cyrchu data a gasglwyd yn rhan o ofal clinigol arferol claf, mae’n cynnig adnodd defnyddiol i ymchwilwyr sydd am ddeall pam mae clefydau’n digwydd, yn ogystal ag i ddatblygu triniaethau posibl, gan gynnal preifatrwydd cleifion.

Bydd y data a gedwir gan AWMGS ac sy’n hygyrch drwy AWGDB yn rhoi platfform hollbwysig i ymchwilwyr cymeradwy ledled y byd, gan gynnwys y sawl sy’n gweithio mewn ysbytai, prifysgolion, a sefydliadau masnachol. Bwriad y mynediad eang hwn yw cefnogi datblygiad meddalweddau, profion, cyffuriau, a datblygiadau eraill a allai fod o fudd i ofal iechyd yn y dyfodol.

Gyda’r holl gymeradwyaeth angenrheidiol bellach ar waith, mae ein tîm ymroddedig yn barod i recriwtio cleifion i Fanc Data Genomeg Cymru Gyfan ac rydyn ni’n croesawu unrhyw ymholiad.

Dysgwch fwy yma:Deall Banc Data Genomig Cymru Gyfan (AWGDB)  

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *